Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2016
Amser: 09.32 -
12.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3679
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Nick Ramsay AC Steffan Lewis AC Mark Reckless AC Eluned Morgan AC Mike Hedges AC |
Tystion: |
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Matthew Richards Georgina Haarhoff, Llywodraeth Cymru Repa Antonio, Llywodraeth Cymru Andrew Hewitt, Llywodraeth Cymru Sean Bradley, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Gerallt Roberts (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Cafodd y Pwyllgor gyngor cyfreithiol gan staff y Comisiwn mewn perthynas ag adran 7 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC.
3.1 Nodwyd y papurau.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y sefyllfa o ran talu cydnabyddiaeth i Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodwyd bod y Prif Weithredwr a'r Clerc wedi ymgynghori â'r Prif Weinidog. Penderfynodd y Pwyllgor y dylai trefniadau talu cydnabyddiaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru aros fel y'u nodir yn ei amodau a thelerau cyfredol.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Cafodd y Pwyllgor ei friffio gan: Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi Trethi a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru; Repa Antonio – Rheolwr Prosiect Treth Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru; Andrew Hewitt – Rheolwr Polisi Treth Trafodiadau Tir, Llywodraeth Cymru; a Sean Bradley – Uwch-gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru; ar y Bil Treth Trafodiadau Tir.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft er mwyn llywio gwaith craffu'r Pwyllgor, a gynhelir yn ystod toriad yr haf.
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei raglen waith ar gyfer tymor yr hydref.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi ei raglen waith ar ei wefan.
9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.